Skip to content

Gweithio mewn partneriaeth

Cartrefi Cymru - Yr Elusen sy'n dwlu CydweithreduAdrian Roper, Rosemary Butler, Jean-pierre Guierald, David Smith

O ddydd i ddydd, ystyr "cydweithredu" yw gwneud pethau ar y cyd gydag eraill. Mae'r gair yn debyg i "gydweithio" a "phartneriaeth". Mae Cartrefi Cymru wedi ymrwymo erioed i gydweithredu o'r math hwn. Rydyn ni'n falch o'n hanes o bartneriaethau gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, elusennau eraill a grwpiau cymunedol. Rydyn ni'n credu ym mholisïau Llywodraeth Cymru sy'n hybu cydweithredu, yn hytrach na chystadlu, fel y ffordd iawn i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus hyd yn oed mewn cyfnod o bwysau ariannol fel hwn.

Mae'r math hwn o gydweithredu wedi'i seilio ar saith egwyddor y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, sef:

1. Aelodaeth wirfoddol ac agored- Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau gwirfoddol sy'n agored i bawb sy'n gallu defnyddio eu gwasanaethau ac sy'n fodlon derbyn cyfrifoldebau aelodaeth, heb wahaniaethu ar sail rhywedd, hil, gwleidyddiaeth neu grefydd na gwahaniaethu cymdeithasol.(Felly ni all neb eich rhoi chi mewn menter gofal gydweithredol. Rhaid i chi ddewis ymaelodi).

2. Rheolaeth ddemocrataidd gan yr aelodau- Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau democrataidd sy'n cael eu rheoli dros a chan eu haelodau - er enghraifft, pobl sy'n cynhyrchu neu'n prynu neu'n defnyddio gwasanaethau'r fenter gydweithredol - sy'n cymryd rhan weithredol mewn gosod polisïau a gwneud penderfyniadau.(Felly nid yw'r penderfyniadau am eich gofal a'ch cymorth yn cael eu gwneud gan fiwrocratiaid neu randdeiliaid anhysbys, ond gan bobl rydych chi wedi'u hethol neu y gallwch eu herio fel aelod â phleidlais).

3. Cyfranogiad economaidd gan yr aelodau -Mae aelodau'n cyfrannu at gyfalaf y fenter gydweithredol, ac yn ei reoli'n ddemocrataidd.(Felly nid ydych yn unigolyn diymadferth sy'n dibynnu ar haelioni rhywun arall, ond yn gyfrannwr, sydd o bosibl yn gwneud cyfraniad sylweddol).

4. Ymreolaeth ac annibyniaeth -Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau hunangymorth ymreolus sy'n cael eu rheoli gan eu haelodau. Os yw'r fenter gydweithredol yn gwneud cytundebau gyda sefydliadau eraill neu'n codi cyfalaf o ffynonellau allanol, mae'n gwneud hynny ar sail telerau sy'n sicrhau rheolaeth ddemocrataidd gan yr aelodau ac yn cynnal ymreolaeth y fenter gydweithredol.(Felly mae'ch gofal a'ch cymorth wedi'u gwarchod yn well rhag newidiadau nad ydych yn cytuno â nhw).

5. Addysg, hyfforddiant a gwybodaeth- Mae mentrau cydweithredol yn darparu addysg a hyfforddiant i'w haelodau, cynrychiolwyr etholedig, rheolwyr a gweithwyr cyflogedig fel y gallant gyfrannu'n effeithiol i ddatblygiad eu menter gydweithredol. Mae aelodau hefyd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am natur a manteision mentrau cydweithredol.(Felly gallwch chi, fel un o ddefnyddwyr eich menter gofal gydweithredol chi, ddisgwyl cael hyfforddiant hefyd).

6. Cydweithredu ymhlith mentrau cydweithredol- Mae mentrau cydweithredol yn gwasanaethu eu haelodau'n fwyaf effeithiol ac yn cryfhau'r mudiad cydweithredol trwy gydweithio trwy strwythurau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.(Felly nid yw'ch menter gofal gydweithredol ar ei phen ei hun, ond yn rhan o rwydwaith o fentrau cydweithredol sydd â gwerthoedd cyffredin, y potensial i rannu adnoddau, a buddiant yn llwyddiant ei gilydd).

7. Consýrn am gymuned -Ar yr un pryd â chanolbwyntio ar anghenion eu haelodau, mae mentrau cydweithredol yn gweithio dros ddatblygiad cynaliadwy cymunedau trwy bolisïau a rhaglenni mae'r aelodau'n eu derbyn.(Felly mae'ch menter gydweithredol yn edrych tuag allan ac yn ceisio cynorthwyo nid yn unig chi fel aelod unigol, ond hefyd y gymuned ehangach rydych chi'n byw ynddi).

Os hoffech chi wybod mwy am daith gydweithredol Cartrefi Cymru, neu ymuno ag un o'r Fforymau Datblygu Mentrau Cydweithredol Cymdeithasol rydyn ni wedi helpu i'w sefydlu, anfonwch neges e-bost atom at:

coop@cartrefi.org

neu

cydweith@cartrefi.org